Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y byd ynddo at ffarmio, a gosodwyd ef am dymor mewn siop yn Rhuthyn. Awyddai y bachgen yn barhaus am fynd i Loegr, ac o'r diwedd, cafodd le yn un o siopau y boneddwr haelionus, Mr. Tait, Lerpwl, y sugar refiner. Yr oedd ewyrth, brawd i dad i'r bachgen hwn yn gapten llong, ac yn tradio rhwng Lerpwl a'r gwledydd tramor, a phan fyddai yn dychwelyd o'i siwrneion byddai ganddo yn gyffredin ryw anrheg i'r hogyn. Un tro with ddychwelyd o'r gwledydd pell, daeth y capten a chwb o New foundland dog i'w nai. Nid oedd y ci y pryd hwnw fawr fwy nag ysgafarnog. Yr oedd yr hogyn yn byw allan, fel y dywedir, hyny ydyw, mewn lodging, ac yn meddwl y byd o'r ci bach, ac yn ei fwydo ac yn ei barchu oreu y gallai er mwyn ei ewyrth, y capten. Ysgrifenodd, wrth gwrs, at ei rïeni i Ddyffryn Clwyd am y rhodd werthfawr a gawsai gan ei ewyrth. Ychydig oedd cyflog y bachgen, ac yr oedd y ci yn bwyta pob peth o'i flaen, a thyfodd yn greadur hardd, mawr, yn mron yn gymaint a llew. Wedi talu am ei fwyd a'i letty, yr oedd pob dimai oedd gan y bachgen wed'yn yn myn'd am fwyd i'r Newfoundland, ac nid oedd ganddo geiniog i'w rhoi yn y casgliad yn y capel. Yr oedd y ci yn