Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu agos i Hugh dori ei galon am y ci, a dywedai y cymydogion na wyddent pa un ai ei lawenydd am arbediad ei fachgen, ai ei ofid am farwolaeth Sam, oedd amlycaf yn yr hen Burgess. Gwnaeth yr amgylchiad hwnw les mawr i'r giaffer,—bu yn fwy tyner byth wrth bawb. Gwnaeth arch o dderw i Sam, a chladdodd ef yn yr ardd, a gosododd gareg ar ei fedd. Wn i ddim ydyw'r gareg yno eto, ebe F'ewyrth Edward.

—————————————

Cwn

NOSON o'r flaen yr oeddwn yn sôn wrthot am gi Hugh Burgess. Creaduriaid rhyfedd ydyw cwn, a ci o ddyn ydyw hwnw nad ydyw yn ffond o gi. Marcia di beth ydwyf yn ddweyd wrthot yrwan—os gweli di ddyn a chas ganddo at gwn, mi ffeindi nad ydyw'r dyn hwnw ddim o'r sort oreu, a dweyd y lleiaf. P'run bynag am hyny, dyma i ti stori sydd cyn wired a'r pader. Flynyddau lawer yn ol, yr oedd yn byw yn Nyffryn Clwyd, yn agos i Landyrnog, wr a gwraig o'r enw, os ydwyf yn cofio yn dda, Pitar a Marged Jones. Yr oeddynt dal ffarm fechan daclus, ac yn gwneud yn burion. Yr oedd ganddynt un mab heb duedd