Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond yr oedd ei droed anafus yn ei rwystro i notio ond yn anhwylus iawn. Daeth pen Hugh i'r golwg, ac aeth o'r golwg drachefn, ac felly ddwywaith neu dair, tra yr oedd Sam druan yn ymdrechu ei oreu i fyn'd ato. Collasant olwg ar y ci a'r bachgen, a dechreuodd Mrs. Burgess rwygo ei dillad, heb wybod beth oedd yn wneyd. Ond yn y funud gwelent ben Sam uwchlaw wyneb y dwfr, ac yr oedd yn cyfeirio at y lan, ac fel pe buasai yn llusgo rhywbeth ar ei ol, ac yn ymddangos yn union yr un fath â phan fyddai er's talwm yn llusgo'r fen—ei ben i fyny, ac yn ysgwyd ei glustiau i ymlid y pryfaid ymaith. Daeth yn fuan yn ddigon agos at Burgess iddo weled fod ganddo rywbeth rhwng ei ddannedd,—siaced Hugh ydoedd, ïe, ac yr oedd Hugh yn cael ei lusgo i'r lan gan Sam. Wedi cael y bachgen ar dir sych bu yn hir iawn yn dod ato ei hun; ac yr oedd Sam, pe buasai rhywun yn sylwi arno, wedi ysgwyd y dwfr lawer gwaith oddiar ei flew hirion, yn gwylio adferiad Hugh lawn mor bryderus a neb. Ond druan o Sam yn ei henaint, yr oedd wedi gwneyd mwy na'i allu y noson hono. Ni fedrai gerdded gartref. Cyrchwyd handcart o'r ffactri i'w gludo, ond bu Sam farw cyn y bore,