Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Trwy lawer o ofal, caredigrwydd, a digon o ymborth, cryfhaodd Sam yn rhyfeddol, ond ni wellhaodd ei droed byth. Bob nos wedi i Hugh ddod adre o'r ysgol, gwelid Sam yn ei ddilyn yn fusgrell hyd y ffyrdd. Y pryd hwnw yr oedd ar lyn mawr y ffaatri gwch bach hynod o ddel, ond'ni chai neb ei gyffwrdd oddigerth perchenog a giaffer y ffactri a'u teuluoedd. Yr oedd Hugh wedi dysgu rhwyfo y cwch yn fedrus dros ben. Un min nos hwyrddydd haf aeth Burgess a'i wraig a Hugh am dro at y llyn, a Sam yn hoblan wrth eu sodlau. Mynai Hugh ddangos i'w dad a'i fam mor fedrus y gallai drin y cwch. Yr oedd ei fam yn erbyn, am ei bod yn dechreu twllu.

"Gadewch iddo," ebe Burgess, a gwthiodd Hugh y cwch yn hwylus o'r lan.

Pan oedd yn nghanol y llyn, edrychai yr hen Burgess arno gyda llygaid edmygol, ac ebe fe,—

"Bachgen garw fydd hwn os caiff o fyw."

Prin yr oedd y geiriau dros ei wefusau pryd y collodd Hugh ei afael o'r rhwyf, ac y syrthiodd dros ymyl y cwch i'r dwfr dwfn. Gwaeddodd y tad a'r fam mewn gwallgofrwydd, ond nid oedd neb o fewn clyw i roi cynorthwy iddynt. Yr un foment neidiodd yr hen gi i'r dwfr,