Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gael Sam gydag ef gartref, yr hyn a ganiatawyd ar unwaith, oblegid yr oedd yn dda gan Martin gael yr hen gi oddiar ei ddwylaw. Yr oedd Sam yn ymddangos fel pe buasai yn deall yr ymgom rhwng Hugh a Martin, oblegid pan drodd ei hen feistr ei gefn, gan gymeryd y gwn gydag ef i'r tŷ, ysgydwodd Sam ei gynffon, fel pe buasai pwysau mawr wedi myn'd oddiar ei feddwl. Gwelsai Sam ambell gydymaith iddo yn cael ei saethu wedi iddo gloffi a methu tynu'r fen. Y noson hono cymerodd Hugh Sam gydag ef gartref, a mawr oedd ymdrech yr hen gi ar ei drithroed yn ei ddilyn.

Er mor dyner oedd rhïeni Hugh, cafodd y bachgen gerydd llym am ddod a'r fath greadur mawr, palfog, blewog, a newynog yn agos i'r tŷ, a mynai yr hen Burgess saethu y ci ar unwaith. Ond gwyddai Hugh am wendid ei dad, a dechreuodd wylo yn chwerw dost. Caniatawyd i Hugh droi y mul bach allan, a rhoi ei gut i Sam, ac erbyn hyn, wrth weled y ci yn cerdded ar ei drithroed, ebe'r hen Burgess yn chwareus,

"Mae'n hawdd gwybod fod y creadur druan wedi bod yn byw yn ymyl yr ysgol."

"Sut felly?" ebe Mrs. Burgess.

"Am ei fod wedi dysgu simple addition,—three down carry one," ebe Burgess.