Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

erioed o'r blaen gan y teulu a phan oedd, cyn eistedd, yn ysgwyd llaw efo Mrs. Roberts a'r plant, dechreuodd un o'r genethod y'smalio âg ef, gan ddweyd ei fod yn mynd yn hen, ac yn gorfod cael ffon. O fregedd, cododd Mr. P— y ffon uwch ei phen fel pe buasai am ei tharo, pryd y neidiodd' Sultan i fynu, ac y rhuthrodd i'w wddf gan ei daflu ar ei gefn ar lawr, ac oni bai i'r holl deulu ymaflyd yn y ci, 'does dim amheuaeth na fuasai wedi ei dynu yn llardiau. Yr oedd Sultan wedi meddwl fod Mr. P— am daro y ferch, a neidiodd y foment hono i'w hamddiffyn. Cafwyd trafferth fawr i gael y ci i'r buarth cefn, ac yr oedd Mr. P a'r teulu wedi dychrynu yn enbyd. O hyny allan, rhwymwyd Sultan wrth gadwen yn y buarth cefn, å dyna oedd yn rhyfedd, pryd bynag y deuai Mr. Pugh i'r tŷ, er ei fod yn dyfod trwy ddrws y ffrynt, gwyddai y ci y foment hono ei fod yno, ac yr oedd yn mynd yn gynddeiriog am gael d'od yn rhydd. Parodd hyn i Mr. P— gadw, oddiyno, yn wir, yr oedd ganddo arswyd myn'd i'r heol. Yn hytrach na cholli cwmni Mr. P—, saethwyd Sultan, er mor anhawdd oedd gwneud hyny wrth feddwl am ei ffyddlondeb.

Dyma i ti stori arall ryfeddach, ond yn ddigon