Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwir, achos mi glywais y bobl eu hunain yn adrodd yr hanes, ac yn Lerpwl y bu hyn hefyd. Yr oeddyt yn adnabod Foulkes bach, y teiliwr? Wel i ti, yr oedd chwaer i Foulkes wedi priodi gweithiwr cyffredin yn Lerpwl, ac yr oeddynt yn byw mewn stryt lle yr oedd llawer o dai gweithwyr, a thipyn o ffordd oddiwrth y dociau. Jones oedd enw y dyn. Buont yn byw yn lled gysurus am rai blynyddau, ond heb gynilo dim. Yn y man aeth busnes yn isel, a thaflwyd Jones allan o waith. Bu yn segur am wythnosau, ac yr oedd ef a'r wraig yn mron llwgu. Elai Jones allan bob dydd i chwilio am rywbeth i'w wneud, a dychwelai o hyd gyda chylla a phoced wâg, oddigerth ambell dro y byddai wedi digwydd taro ar hen gyfaill a chael ychydig geiniogau ganddo. Yr oedd wedi gwneud hyn am gymaint o amser fel yr oedd wedi glan laru ar fywyd, a dwedodd wrth y wraig un diwrnod, pan nad oedd ganddynt geiniog yn ty, na gwlithyn i'w fwyta, — " Dai ddim allan eto, mi fyddaf farw wrth y pentan." Crefodd y wraig arno arno i wneud un cais arall, gan ddweud wrtho fel cymhelliad, y gallai daro ar gyfaill, os na chai waith. Wedi llawer o grefu, aeth Jones allan wed'yn, am y tro olaf, fel y credai. Aeth drwy un stryt a