Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

thrwy yr ail, a phan oedd yn myn'd'ar hyd y drydedd, sylwodd fod clamp o gi ardderchog yr olwg yn ei ddilyn. Ceisiodd gan y ci fynn'd yn ol, ond ni wnai—dilynai ef i bob man lle yr elai Toc, cyfarfyddodd rhyw Gymro ef. tebyg i ddyn y môr, yr hwn a edrychodd yn fanwl ar y ci, ac ebe fe,—"Hwdiwch, ffrynd, ydi'r ci yna ar werth? a beth ydi'r pris?" Ni wyddai Jones sut i ateb, rhag ofn mai y gŵr oedd ei pia. Ond wedi ystyried moment, ebe fe, "Wel, y mae'n o anodd 'madel a'r ci, ond yr ydw i'n bur dlawd heddyw." " Mi rof i chi ddwy bunt amdano heb chwaneg o siarad," ebe'r gŵr. " O'r gore," ebe Jones. "Fy enw ydyw Capten Thomas, a dowch a fo i'r llong Margaret Ann yn mhen yr awr," ebe'r Capten. Ac felly yr aeth Jones rhwng ofn a gobaith, a thalwyd y ddwy bunt iddo. "Beth ydyw ei enw?" gofynai y Capten pan oedd Jones yn cychwyn ymaith. "God-sent," ebe Jones. Enw rhyfedd arw ar gi," ebe gŵr y môr. "Eithaf priodol, serch hyny," ebe Jones. Aeth Jones adref yn llawen, a chyn i'r ddwy bunt ddarfod, yr oedd wedi cael gwaith cyson. darn rhyfeddaf o'r stori,—Yn mhen oddeutu deng mis, yr oedd Jones, rhwng saith ac wyth o'r gloch y nos, yn cymeryd ei dê ar olOnd dyma y darn rhyfeddaf o'r stori,—Yn mhen oddeutu deng mis, yr oedd Jones, rhwng saith ac wyth o'r gloch y nos, yn cymeryd ei dê ar ol