Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tomos Mathias

ERBYN hyn, ebe F'ewyrth Edward,mae yr hen Waterloo veterans wedi myn'd i gyd, mi debygaf. Yr wyf yn cofio amryw o honyn nhw'n dda, ac yn eu plith Tomos Mathias. Yr oedd Tomos yn byw mewn ty bychan tu ol i'r Blue Bell, Maesydre, Wyddgrug. Un o'r tai lleiaf a welais yn y mywyd oedd tŷ Tomos, ac fe ddwedid mai rhyw brydnawn ar ol noswylio y gwnaeth Jac, y saer, sef y perchenog, y tŷ, ac fod Tomos yn derbyn llythyr ynddo bore drannoeth. Prun bynag am hyny, dyna'r tŷ lleiaf a welais erioed. Mi faset yn medrud estyn pob peth oedd yn y gegin heb godi oddiar dy eistedd, a 'doedd y siambar ddim ond just ffit o le i wely. Yr oedd pobol yn deud, pan fu Tomos yn sal ryw dro, mai drwy y ffenest y dangosodd ö ei dafod i'r doctor, yr hwn oedd isio gwybod stâd ei stymog. Ond wn i ddim oedd hyny'n wir ai peidio. Yn y caban bach yma y bu Tomos a Beti ei wraig yn byw lawer o flynyddoedd. Yr oedd Tomos wedi bod mewn rhai brwydrau, ac yn un o honynt—wn i ddim ai yn Waterloo y bu hyny—cipiwyd darn o asgwrn ei