Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ben i ffwrdd, tipyn tu ucha'r coryn. Ond fe ddaru doctoriaid y fyddin neud job net ryfeddol ar ben yr hen greadur, drwy roi plât arian dros y twll rhag i'w fenydd o fod yn y golwg. Mi welais y plât arian â'm llygaid fy hun ddegau o weithiau. Dwedai Tomos y byddai yn amal heb yr un geiniog, ond na fyddai byth heb arian. Derbyniai chwe' cheiniog y dydd o bension am ymladd dros ei wlad; ond bob chwarter blwyddyn y cai yr arian gan Sergeant-Major Evans. Hen begor rhyfedd oedd y major, ond stori arall ydi hono.

Yn gyffredin, yr oedd Tomos cyn llawened a'r gog, a phob amser mor ddiniwed a'r golomen. Ond yr oedd ynddo un bai pwysig—yr oedd yn ffond ryfeddol o gwrw, ac nid oedd Beti yn ddirwestreg. Er mor ddiniwed oedd y ddau hen ben, yr oeddynt yn baganiaid enbyd, a 'doedd ganddynt ymron ddim syniad am grefydd. Elai Tomos i'r eglwys unwaith bob tri mis—sef y Sabboth o flaen y pension, er mwyn i'r Sergeant Major Evans gofio ei fod yn fyw. Rhoddid trust i Tomos hyd i swm neillduol gan Mali Dafis, y siop fach, a chan un neu ddwy o dafarnau, i aros diwrnod y pension. Wedi myn'd at farc y trust, byddai Tomos a Beti yn dlawd