Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

STRAEON Y PENTAN

——————

Doli yr Hafod Lom

"WEL," ebe F'ewyrth Edward, "yr wyt ti erbyn hyn yn ddigon hen i mi sôn wrthot ti am ryw bethau na fuaswn i ddim yn meddwl am sôn am danynt ryw dair neu bedair blynedd yn ol. Yr wyf yn dallt dy fod dithau yn dechreu cerdded y llwybr a gerddais inau, ac a gerddodd agos i bawb o'r hîl ddynol, oddieithr ambell hen lanc a anwyd yn hen lanc. Mae'n debyg (ac edrychodd F'ewyrth arnaf gyda chil ei lygad, a gwridais inau at fôn fy ngwallt) dy fod yn credu yn dy galon na fu neb erioed yn debyg i Mary Jones, y Pant, ac y bydd yn anmhosibl i ti byth fedru caru neb arall. Pwy ond Mary, meddi di, fedrai wneud i ti fethu cysgu a methu bwyta? pwy ond y hi fuasai yn peri i ti fod yn barod i aberthu pobpeth er ei mwyn? a pheri i ti ddymuno fod y peth yma a'r peth arall, ac, yn wir, wneud i ti feddwl y gallet ti farw drosti? Paid a siomi dy hun. Hwyrach yr aiff y clefyd drosodd yn y man, ac