Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daw o atat ti eto ymhen yr rhawg yn nglŷn â rhywun arall, ac na feddyli di y pryd hwnw fwy am Mary Jones, y Pant, nag am Malen, y forwyn yma. Mi wranta dy fod yn meddwl mai dy fodryb Beti oedd yr unig gariad a fu gen i? Dim peryg! Y hi oedd yr olaf, a'r oreu, mi gredaf.

Ond am Doli, yr Hafod Lom, yr oeddwn yn mynd i sôn. Wn i ddim yn y byd mawr sut y cafodd y ffarm yr enw Hafod Lom, achos yr oedd hi yn llai llom na'r rhan fwyaf o ffermydd yn y gymdogaeth. Yr oedd y tŷ ar dipyn o godiad tir, ac yn gwynebu haul y bore, ac yr oedd gardd fawr o flaen ei ffrynt. Tu ol i'r tŷ yr oedd buarth mawr, ac ar y naill ochr iddo yr oedd y stablau, a'r tai allan. Yn un pen i'r buarth yr oedd llyn mawr dwfn, a dŵr glân gloew yn rhedeg yn feunyddiol iddo yn un pen, a fflodiart yn y pen arall lle y gellid gollwng y dŵr allan, neu ei storio fel y byddai yr angen. Amlwg ydoedd ar y clawdd cadarn oedd o'i gwmpas fod rhywun yn yr hen amser wedi cymeryd trafferth fawr i wneud y llyn, ac yr oedd yn gaffaeliad mawr i'r tŷ, achos un o'r pethau mwyaf manteisiol yn nglŷn â ffarm, lle mae llawer o benau, ydyw digonedd o ddŵr.