Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pur. Tu ol i'r stablau yr oedd yr ydlan, a thu ol i hono yr oedd llwyn o goed. Gellid myn'd i'r tŷ ddwy ffordd, sef ar hyd y llwybr oedd yn myn'd o'r tyrpeg i'r drws, ac hefyd ar hyd llwybr oedd yn myn'd drwy y llwyn coed, ac heibio ochr bellaf y llyn a thros y fflodiart. Anaml y cerddai neb y llwybr hwn yn y nos, am nad oedd yn ddiberygl syrthio i'r llyn, ac yr oedd y dŵr yn ddwfn iawn, fel y dwedais, yr ochr hono iddo. Yr oedd y tŷ yn fawr a hen ffasiwn, a'r ystafelloedd yn helaeth, ac yn llawn mwy cysurus na'r cyffredin yn y dyddiau hyny. Wel, y mae genyt ddrychfeddwl go lew yrwan, pa fath le oedd yr Hafod Lom.

Gair neu ddau, yrwan, fel y dywed y pregethwyr, am y tenant, sef Richard Hughes, fel yr wyf fi yn ei gofio pan oeddwn yn llanc. Dyn main tal oedd Richard, bob amser yn gwisgo côt a gwasgod lwyd, a chlôs a getars o gesimïar goleu. Main oedd Richard o'r top i'r gwaelod. Yr oedd ei goesau yn fain, ac o herwydd nad oeddynt yn neillduol o sythion, a'r clôs â'r gêtars yn ffitio yn dụn, yr oedd cryn oleu rhyngddynt, ac yn gwneud i un feddwl, wrth edrych arnynt, nad gorchwyl hawdd a fuasai i'w perchenog ddal porchell neu lwdn mewn adwy. Yr oedd ei