wyneb drwyddo yn fain—ei drwyn yn fain, ei ên yn hirfain, ac o herwydd ei fod wedi colli ei ddanedd, ac yn shafio ei wyneb yn lân oddigerth rhyw fodfedd wrth dop ei glustiau, yr oedd ei safn yn pantio yn o sownd, a'i ên a'i drwyn yn myn'd yn agosach cymdogion bob blwyddyn. Ond yr oedd un peth llydan yn perthyn i Richard, sef ei het, yr hon a fyddai bob amser a choryn isel a chantel mawr iddi, ac yn ymddangos yn rhy helaeth iddo o lawer, ac yn pwyso mor dost ar ei glustiau nes troi hem arnynt. Yr oedd Richard yn cael y gair ei fod yn gyfoethog iawn. Ddymunwn i ddim dweyd ei fod yn gybydd, ond yr wyf yn ddigon siwr ei fod yn hoff o arian, mor hoff fel yr oedd yn anmhosibl ei berswadio ond yn anfynych i ymadael a dim o honynt. Wedi i mi ddweyd fod Richard Hughes yn flaenor Methodus, a fod ganddo dipyn o wich yn ei lais, mi fydd genyt idea go lew eto am denant yr Hafod Lom.
Dynes landeg, siriol a charedig, oedd gwraig yr Hafod, sef Dinah Hughes, ond anfynych y byddai yn cael cyfleustra i ddangos ei charedig rwydd ond yn absenoldeb Richard. A byddai y tlodion yn gwybod hyny yn dda, ac yn gwylio