Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr hen ŵr yn myn'd i'r farchnad neu i'r capel, cyn meddwl am fyn'd i'r Hafod. Yr oedd gwraig yr Hafod gryn lawer ieuengach na'i gŵr. ac yn cadw ei hoed yn well. Doli oedd eu hunig epil, ac yr oedd yn un o'r genethod harddaf a challaf a fu erioed ar ledr. Yr oedd yn dal a lluniaidd, ac yr oedd ganddi wyneb fel pictiwr. Er hyny, yr oedd yn hynod ddifalch, ac yn agos iawn at bawb, fel y dwedir. Ni fyddai fawr wahaniaeth yn ei gwisg a gwisgoedd merched eraill is o lawer eu sefyllfa na hi. Ond dwedai rhai mai ei thad oedd yn gwrthod dillad crand iddi, ac hwyrach fod gwir yn hyny. Mi glywais ei mam yn dweyd un tro y byddai Doli pan yn cael dilledyn newydd yn gorfod ei gadw yn hir cyn ei wisgo; ac yna os llygadai ei thad y dilledyn pan wisgai Doli ef y tro cyntaf, a dechreu tuchan am y gwastraff, dwedai'r fam "Be haru chi, Richard? ond ydi hwn ene gan yr eneth er's gwn i pryd; lle buoch chi tan 'rwan heb ei weled?" Yna prynai Dinah Hughes ddilledyn newydd arall i Doli cyffelyb, pan y gwyddai fod Richard wedi colli ymddiried yn ei lygaid. Prun bynag, pa beth bynag a wisgai Doli'r Hafod, yr oedd hi yn moedro penau y rhan fwyaf o lanciau y gymdogaeth; ac yr