Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ambell un, mi gredaf, wedi arall eirio, ddwy linell olaf yn yr hen benill adnabyddus, ac yn eu mwmian rhwng cyrn yr arad, ac yn mohobman

Mi af oddi yma i'r Hafod Lom,
Er fod hi'n drom o siwrne;
O na chawn yno ganu cainc,
Ac eistedd ar fainc y simdde!

Y gwir ydoedd, fod amryw o honom wedi haner dyrysu am Doli, ac nid oedd y ffaith fod ei thad yn gyfoethog, ac mai Doli oedd ei unig epil, yn lleihau dim ar ein clefyd. Frank Price, yı Hendre Fawr, Dafydd Edwards, y saer, a minau oedd yr unig rai a gai fymryn o gefnogaeth gan Doli. Ystyrid teulu yr Hendre yn bobl barchus a lled gefnog, ac yr oeddynt yn Eglwyswyr selog; ac yr oedd Frank yn fachgen digon smart, ond ei fod dipyn yn wyllt a digrefydd Ond mi welais i yn fuan mai Dafydd Edwards, y saer, oedd ffafryn Doli, a mi rois fy nghardiau yn tô, ac yn fwy boddlon am mai Dafydd oedd y dyn, ac nid Frank. Yr oedd Dafydd yn aelod eglwysig, ac yn fachgen crefyddol a da, ac yn hynod olygus. Ond dyna oedd yn rhyfedd, er fod Richard Hughes yn flaenor, mab yr Hendre oedd ei ffafryn ef. Rhoddai bob croesaw i