Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Frank pan ddeuai i'r Hafod; ond ni feiddiai Dafydd, druan, ddangos ei wyneb yno. Beiai pobl y capel yr hen Richard yn fawr am ei fod yn croesawu bachgen digrefydd i geisio am law ei ferch, a dwedent mai ei gariad at arian oedd rheswm am hyny, ac eto credai pawb, yr wyf yn meddwl, fod gwreiddyn y mater gan Richard Hughes, y blaenor. Ond ni allasai holl gyfoeth y byd dynu serch Doli oddiar Dafydd Edwards, a safai yr eneth yn uwch yn syniad y gymydogaeth o'r herwydd. Yr oedd yr ystori hyd yr ardal; ac yr oedd yn ddigon gwir, mi gredaf, fod Doli yn cael byd garw efo'i thad, am ei bod yn caru Dafydd, y saer, ac yn gwrthod gwneud dim â mab yr Hendre Fawr.

Pa fodd bynag—a dyma ydi'r stori-un noson yr oedd yr hen Richard wedi myn'd i'r capel, a Dafydd, yn gwybod hyny, wedi myn'd i gyfarfod Doli at benor y llwybr oedd yn myn'd drwy y llwyn coed y soniais am dano. Pan fyddai Doli yn myn'd i gyfarfod Dafydd, byddai bob amser yn cymeryd Twm, rhyw gi bach chwerw i'w chanlyn, yr hwn os clywai y mymryn lleiaf o drwst a ddechreuai chwyrnu, ac yna byddai Dafydd a Doli yn gallu ymwahanu cyn i neb eu gweled. Ond y noson hono yr oedd y ddau