Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi ymgolli yn gymaint yn yr ymgom, neu ynte yr oedd y ci yn adnabod sŵn у troed oedd yn dyfod i lawr y ffordd, fel na ddarfu iddynt sylwi fod neb yn agosau nes oedd yr hen Richard yn eu hymyl. Yr oedd yn noswaith lled dywell, ond can gynted ag y deallodd Doli mai ei thad oedd yno, rhedodd drwy y coed, ac ebe'r hen ŵr—

Dafydd, wyt ti yma eto? Sawl gwaith yr ydw i wedi dweyd wrthot ti am beidio d'od ar ol yr eneth yma? Waeth i ti un gair na chant, chei di byth moni tra bydd fy llygaid i'n agored."

Y foment hono clywodd y ddau ysgrech dor calonus ac fe ddarfu i'r ddau adnabod y llais. Rhuthrodd Dafydd ar hyd y llwybr tua'r llyn, a'r hen ŵr yn ei ddilyn oreu y gallai. Yr oedd y noson yn dywell, fel y dywedais, ond tybiodd Dafydd, er ei fod yn gynhyrfus, ac ymron allan o'i bwyll fod rhywun wedi croesi y llwybr cyn iddo gyrhaedd y llyn. Yr oedd Dafydd yn nofiwr diail, ac fel dyn gwallgof, neidiodd i'r llyn, ac ymbalfalai yn y tywyllwch am Doli, ond i ddim pwrpas am fynud neu ddau. Yr oedd yr ysgrech wedi cyrhaedd yr ystablau lle yr oedd y llanciau yn porthi yr anifeiliaid, ac mewn