Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig funudau yr oedd y gweision oll gyda'u lanterni ar ymyl y llyn, ac fel y dwedodd un o'r llanciau wrthyf wedyn—pan daflodd y lanterni eu goleu ar y llyn, y peth cyntaf a welodd oedd Dafydd wedi cael gafael yn Doli ac yn dal ei phen uwchlaw'r dŵr, a chlywodd ei geiriau olaf—"O Dafydd bach, yr ydw i'n boddi." Dygwyd Doli i'r lan a chariwyd hi i'r tŷ. Nid oedd wedi marw, ond o herwydd anwybodaeth pobl sut i drin rhai yn y cyflwr hwnw, bu Doli druan farw ymhen ychydig fynudau. Pan oedd yn marw yr oedd yn sefyll uwch ei phen ei thad a'i mam, Dafydd, y saer, a mab yr Hendre fawr. Pa fodd y daeth Frank yno ar y fath adeg ni wybu neb byth, ac nid wyf finau yn dewis dweud fy opiniwn. Achosodd yr amgylchiad lawer o boen a siarad yn y gymydogaeth. Yr oeddwn er's tro byd yn ymwelydd mynych a'r Hafod Lom, ac yn bur ffryndiol â Doli ac â'i thad â'i mam.

Euthum yno dranoeth ar ol y ddamwain, ac ni welais yn fy mywyd y fath ofid a thorcalon. Cyn i mi ymadael ebe'r hen Wr, Richard Hughes, wrthyf—

Edward, wnei di ofyn i Dafydd, y saer, ddod i'r claddu? "