Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Synais ei glywed yn dweyd hyny wrth gofio am ei elyniaeth at Dafydd, a da oedd genyf gario y genadwri.

Yr oedd yr holl ardal ymron wedi dyfod i gladdu Doli, ac yn ol yr arferiad y pryd hwnw ar gladdedigaeth, yr oedd yn yr Hafod gryn fwyta ac yfed. Drwy fy mod yn dipyn o ffafryn yn yr Hafod yr oeddwn yno yn un o'r rhai cyntaf ddiwrnod y claddu. Ychydig cyn yr amser yr oedd yn rhaid "codi'r corff," a chychwyn tua'r fynwent, yr oeddwn gyda Richard a Dinah Hughes mewn ystafell ar ein penau ein hunain cheisiwn eu cysuro oreu y gallwn, ond yr oedd eu galar, fel y gallet ti feddwl, yn arteithiol. Edrychodd Richard drwy y ffenestr i'r buarth ar y dyrfa fawr oedd wedi dyfod i gladdu Doli, ac ebe fe wrthyf—

"Ai nid Dafydd ydi hwn acw sydd ar ei ben ei hun yn mhen draw y buarth?" Dwedais inau mae ïe.

"Gofyn iddo ddod yma," ebe fe.

Euthum ar unwaith a dygais ef i mewn. Nid anghofiaf yr olygfa byth. Pan ddaeth Dafydd i mewn torodd yr hen wr i lawr yn lân, ac ni fedrodd ddweyd gair am yr rhawg. Wedi i'r