gafod fyn'd drosodd, ebe fe,—ac y mae ei eiriau yn swnio yn fy nghlustiau y fynud hon—
"Dafydd, O! Dafydd, mae Duw wedi fy nharo—wedi fy nharo rhag fy namio i! Y ti oedd pia Doli—ïe, y ti oedd ei phia hi, ac wrth dreio dy robio di o honi mi collais hi am byth! Dafydd,"—a gosododd yr hen wr ei ben ar ysgwydd lydan Dafydd—"y mai i i gyd oedd o, a mae Duw wedi fy nharo!" ac wylodd yn hidl. "Dafydd," ychwanegodd," gaf i bwyso ar dy fraich di ar y ffordd i'r fynwent?" Dwedodd Dafydd y cwbl drwy wasgu llaw yr hen ŵr gofidus, a synodd pawb weled Richard Hughes yn cerdded yn mraich Dafydd, y saer, tua'r fynwent.
Bu llawer o siarad ac amgrymu dan eu danedd ymhlith y cymdogion ar ol hyn. Pa un ai yn ddamweiniol ai fel arall y cyfarfyddodd Doli a'i diwedd, ni wybu neb byth. Yn fuan ar ol hyn ymunodd mab yr Hendre Fawr â'r fyddin, a lladdwyd ef yn India'r Dwyrain. Ni bu Richard Hughes byth yr un dyn. Fu o ddim byw yn hir ar ol hyn; ond tra y bu o byw, 'doedd dim arwydd arno ei fod yn caru arian, a mi ddiweddodd ei oes yn un o'r dynion mwyaf cymwynasgar a llaw agored yn y wlad. Yr