Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd pobl yn dweyd fod Richard Hughes, yr Hafod Lom, wedi gadael yn ei ewyllys olaf swm go dda o arian i Dafydd, y saer, ond wn i ddim oedd hyny yn wir. Ond mi wn hyn, na ddaru Dafydd byth garu neb arall ar ol colli Doli—mi fu farw yn hen lanc ac yn dda arno," ebe Fewyrth Edward.

—————————————

Nid wrth ei Big mae Prynu Cyffylog

PAID byth a chymeryd pobl wrth eu golwg, neu yr wyt yn lled debyg o gael dy siomi weithiau. Mae yna hen air Cymraeg,–Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog.' Yr wyf yn cofio pan oeddwn yn las-hogyn yn byw efo nhad a mam yn Cefnmeiriadog, fod Wil Williams, mab y ffarm nesaf atom, a minau yn gyfeillion mawr; ac o herwydd fod ein rhieni mewn gwell amgylchiadau na rhai o'r ffermwyr tlodion oedd o'n cwmpas, ein bod yn meddwl tipyn o honom ein hunain. Mi glywi rywrai yn dweyd nad ydyw yr oes yn gwella dim. Lol i gyd; mae hi wedi gwella llawer. Prin y gwelid y pryd hwnw fachgen i ffermwr yn darllen llyfr da, os na fyddai ei fryd ar fyn'd yn bregethwr. Ein prif ddifyrwch yr adeg hono,