Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cefais ei fod yn dod o ffenest tŷ bach tlawd yr olwg. Curais y drws, a daeth gŵr y tŷ, yr hwn oedd ar fin myn'd i'w wely i'w agor, a chyfarwyddodd fi i'r ffordd dyrpeg. Wedi cyraedd y typeg dechreuais gofio y ffordd, er fod yr eira yn rhoi golwg ddieithr ar bobman. Cofiais fod tafarndy yn ymyl o'r enw y Crown. Penderfynais nad awn gam pellach na'r dafarn, oblegid yr oedd genyf eto dair milltir o ffordd i'r Llwybr Main, a minau wedi blino cymaint fel mai prin y gallwn roi y naill droed heibio'r llall, ac yr oedd yn dal i fwrw eira. Ofnwn fod pobol y Crown wedi myn'd i'r gwely, a choelia fi, da gan fy nghalon oedd gweled goleu yn ffenest y gegin. Yr oeddwn ymron yn rhy finedig i guro y drws, pryd y daeth gŵr ieuanc i agor, gan fy ngwadd i fewn. Dywedais wrtho am fy sefyllfa, ac y byddai raid i mi gael gwely yno. Aeth i nol ei fam, ac wedi i mi fyn'd dros yr un stori wrthi hithau, ac i'r ddau siarad yn gyfrinachol, ebe'r fam,—

"Mae'n ddrwg gen i, syr, na fedrwn ni roi llety i chi, er mor dost ydi'r nosweth. 'Does gynon ni ond un ystafell heb fod ar iws, a deud y gwir i chwi, y mae rhwbeth yn trwblo yn hono, fel na fydde fo ddiben yn y byd i chi geisio cysgu ynddi."