Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mi gymeraf fy siawns am hyny," ebe fi.

"Purion," ebe'r wraig, "ond dyna fi wedi deud yn onest wrthoch chi," a ffwrdd a hi i barotoi tamed o swper i mi, ac i ddweud wrth y ferch am wneud y gwely yn barod. Pan oeddwn yn cymeryd swper, holais y wraig am yr ysbryd, pryd y cefais y stori yn llawn ganddi. Yn fyr, yr oedd yn rhywbeth tebyg i hyn. Eu heiddo hwy eu hunain oedd y dafarn, ac yr oeddynt wedi cadw stori'r ysbryd oddiwrth bawb, rhag gwneud niwed i'r tŷ, ond yr oeddynt ar frys am gael ei werthu. Nid oedd neb wedi clywed yr ysbryd ond y fam a'r mab, ac nid oeddynt wedi sôn gair wrth y ferch, yr hon oedd yn bur wael ei hiechyd, rhag ei dychrynu, a rhoisant siars arnaf finau i beidio sôn wrthi, ac ebe'r fam,—

"Mae y bachgen yma a finau yn ei glywed bob nos ymron, ac weithiau fwy nag unwaith yr un noswaith, ond diolch i'r Tad, dydw i ddim yn meddwl fod y ferch wedi clywed dim oddiwrtho, ond y mae hi yn cysgu yn y garret gefn."

"Beth fyddwch yn ei glywed?" gofynais inau.

"Wel," ebe hi yn ddistaw, gan edrych tua'r drws rhag ofn i'r ferch glywed, "mi fyddwn yn