clywed rhwfun yn agor y drws—'does ene'r un clo arno—ac yn union deg yn ei gau o wed'yn. Yn yr ystafell ene bu farw fy ngŵr ryw flwyddyn yn ol, a mi dendiodd yr eneth yma gymaint arno nes y collodd ei hiechyd, a mae gen i ofn drwy nghalon iddi glywed y peth sy'n trwblo, achos mi fydde'n ddigon am ei bywyd hi, a waeth gen i bydawn i odd'ma yforu, cawn i rwbeth tebyg i bris am y tŷ."
Yn y funud daeth yr eneth i mewn, a gosododd ganwyll ar y bwrdd i mi, a dywedodd fod fy ngwely yn barod, a chanodd nos dawch. Yr oedd golwg wywedig a syn arni, a hawdd oedd genyf gredu nad oedd yn iach. Euthom i gyd i'n gwelyau. Yr oedd y tair ystafell lle y cysgwn i, y mab, a'r fam ar yr un landing, a, chysgai y ferch yn rhywle yn nhop y tŷ. O herwydd fy mlinder a stori'r ysbryd, ni fedrwn yn fy myw gysgu. Yr oeddwn wedi rhoi fy rifol far ar fwrdd bychan yn fy ymyl. Yn mhen rhai oriau, tybiais glywed rhyw swn oddiallan i'r ystafell. Goleuais y ganwyll y foment hono, a chydiais yn y rifolfar, oblegid yr oeddwn yn benderfynol os cawn allan mai rhyw ddihiryn oedd yn aflonyddu ar y bobol ddiniwed hyn, y gwnawn ychydig dyllau ynddo. Ond pan, y