Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

funyd nesaf, yr agorodd y drws, euthum i grynu fel deilen, ac yn fwy felly pan welwn ferch ifanc yn ei dillad nos yn dod yn syth at fy ngwely. Gan edrych yn dyner yn fy llygaid, ebe hi yn ddistaw,—

"Ydach chi'n well, nhad bach?" yna trodd ar ei sawdl, cauodd y drws ar ei hol, ac ni welais mo honi wed'yn tan y bore. Merch y tŷ ydoedd druan, yn codi drwy ei hun. Yr oedd ei phryder a'i gofal am ei thad yn ystod ei afiechyd wedi etfeithio ar ei nerves, ac er y dydd y claddwyd ef, yr oedd wedi bod yn codi drwy ei hun. am flwyddyn gron heb yn wybod iddi ei hun nag i'w mam a'i brawd. Felly, mi fum yn foddion i roi ysbryd y Crown i lawr, ac yr oedd diolchgarwch y fam a'r brawd i mi yn ddiderfyn. Buom yn gyfeillion byth, ac ar fy nhrafel byddwn yn myn'd i'r Crown fel bydawn yn myn'd gartre, ebe F'ewyrth Edward.

—————————————

Tubal Cain Adams

O BOB math o greulondeb, mi fyddaf yn meddwl, ebai F'ewyrth Edward, mai creulondeb at greaduriaid mudion ydyw y gwaethaf;