Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am y rheswm na fedr y creaduriaid hyny, druain, ddwyn tystiolaeth yn erbyn eu poenydwyr, ac am eu bod yn fwy analluog i am ddiffyn ac i ymgeleddu eu hunain. Pan oeddwn yn hogyn, mi welais lawer o fechgyn creulon, ond neb tebyg i Tubal Cain Adams. Mae o a phawb o'i deulu erbyn hyn wedi meirw, onide fuaswn i ddim yn dweyd y stori hon wrthyt. Ac wedi i ti ei chlywed, hwyrach y dwedi di ei bod yn debyg iawn i stori hen wrach, ac yn sawru yn gryf o ofergoeledd yr oes o'r blaen. Ond y mae yn ddigon gwir, a chei ddweyd beth a fynost am dani.

Torwr ceffylau oedd tad Tubal Cain Adams, ac nid oedd yntau yn un o'r rhai mwyaf tirion. Mi welais ambell geffyl yn crynu drwyddo wrth glywed ei lais, ac yn edrych ar ei chwip gyda llygaid a'u llon'd o arswyd. Nid oeddym ni, yr hogiau, un amser yn hoffi i Tubal dd'od i gyd chware â ni, am y rheswm y byddai agos yn wastad yn gofalu brifo rhai o honom. Wedi iddo fynafyd un o honom, dwedai bob amser mai damwain oedd y cwbl; ond gwyddem yn burion ei fod yn ymhyfrydu rhoi poen i rywun. Felly nid oedd Tubal yn cael ei hoffi gan neb, a byddai gan ein rhïeni, yn enwedig ein mamau,