Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ryw gŵyn feunyddiol yn ei erbyn. Tubal a'm dysgodd sut i hela adar. Mae yn dda gan y nghalon i fod y chware drwg hwnw wedi ei roi i lawr. Y ffordd y byddem yn gwneud oedd cymeryd bawb ei ffon, a myn'd un o bobtu'r gwrych, a dechreu ei guro nes y codem aderyn, ac yna hela y creadur bach o'r naill ben i'r gwrych i'r llall, os na 'heclai ar draws y cae, ac os felly, byddem wedi colli yr aderyn hwnw. Byddai y dryw bach yn fynych yn ein concro yn lân, âi o'r golwg fel pe buasai y ddaear wedi ei lyngcu, ac hwyrach, wedi i ni fyn'd bellder oddiwrtho, clywem ef yn twitian yn ddigon talog Anfynych y gadawai y robin goch y gwrych, ond 'hedai o'r naill gangen i'r llall, yn ol a blaen, nes ein blino, neu i ni ei flino ef. Mi gofiaf byth am y tro olaf y bum yn hela adar efo Tubal Cain Adams. Ar fore Nadolig rhewllyd yr oedd hyny. Yr oeddym wedi codi robin goch, ac wedi ei redeg yn ol a blaen yn hir, pryd y safodd robin ar gangen wedi llwyr flino. A mi ddychmygaf y munyd yma weled ei frest goch fach brydferth yn codi ac yn gostwng yn gyflym, gan fel yr oedd ei galon yn curo. Cymerodd Tubal afael ynddo, a'r foment hono torodd blood vessel i'r creadur gwirion, a