Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffrydiai y gwaed drwy ei bîg bach, yna cauodd ei lygaid disglaer, plygodd ei ben, a bu farw ar gledr llaw Tubal. Daeth y fath bangfa o euog rwydd drosof nes y methais beidio crïo. Wrth fy nyweled yn crïo, rhoddodd Tubal glewten i mi yn fy nghlust, lluchiodd robin i'r awyr, a tharawodd ef gyda'i ffon pan oedd yn disgyn, nes oedd ei blu yn gawod dros y lle. Effeithiodd yr amgylchiad yn fawr arnaf, a phan ddwedais y stori wrth fy inam, gwnaeth i mi fyn'd ar fy ngliniau i ofyn maddeuant Duw am y creulon deb, i'r hyn yr oeddwn yn ddigon parod. Ond giynodd y teimlad o euogrwydd ynof amser inaith, ac nid ydwyf y funyd hon, yn fy hen aint, yn hollol rydd oddiwrtho. Mi fedrwn adrodd llawer o greulonderau Tubal Cain Adams i ti, ond un eto yn unig, at yr hyn a ddwedais, y soniaf am dano.

Yn mhen blynyddau ar ol stori y robin goch, crebychai fy nghroen pan glywais, a hyny gan ficar y plwy, fod Tubal wedi tynu nyth aderyn bronfraith a thri o rai bach ynddo. Cymerodd y nyth a'r adar bach adref, ac aeth yn syth at Robert Lewis, y teiliwr, a dwedodd fod ei fam yn gofyn ain fenthyg siswrn bach, siswrn tori tyllau botymau. Wedi cael y siswrn, a phan oedd yr