Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adar bach yn agor eu pigau am fwyd, torodd Tubal dafodau y tri. Daeth y creulondeb dychrynllyd i glustiau y ficar, yr hwn a aeth ato ac a roddodd y wers oreu iddo a gafodd yn ei fywyd, a dwedodd wrtho y byddai Duw yn sicr o dalu iddo am y fath weithred ysgeler. Dychrynodd Tubal gryn dipyn, a bu yn well bachgen byth. Hyny fu. Pan oedd Tubal oddeutu deunaw mlwydd oed, ar fore Nadolig, clywais ei fod yn sâl iawn. Eis i edrych am dano, a chefais ef bron yn rhy lesg i allu siarad. Yr oedd wedi tori blood vessel, ac wedi colli llawer o waed. Ebai fe,—"Edward, wyt ti'n cofio am y robin goch er's talwm?" "Ydwyf yn burion," ebe finau. "Dyma dâl i mi, yntê?" ebai fe, a thorodd i grïo. Ond gwellhaodd Tubal o'r afiechyd yn mhen llawer o fisoedd, ond ni bu byth yn gryf. Pan oedd Tubal yn chwech ar hugain oed, priododd. Yr oedd o yr adeg hono yn gweithio fel gwas ffarmwr. Yn mhen oddeutu blwyddyn ganwyd iddo ferch, a chyn pen pum' mlynedd yr oedd ganddo dair o ferched. Ond hyn oedd yn rhyfedd—a dyma ydyw pwynt y stori—yr oedd y tair hogen yn fudion, ni ddwedodd un o honynt air erioed. A'r hyn oedd ryfeddach fyth, yr oedd y tair yn clywed yn burion,