Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos y mae byddardod yn mron yn ddieithriad yn blaenori mudandod. Bu y fam farw ar enedigaeth yr olaf o'r genethod, ac effeithiodd cyflwr gresynus ei blant gymaint ar Tubal Cain Adams, fel y gwywodd yntau yn fuan. Cymerwyd yr hogenod i'r tloty, ac yno o un i un buont hwythau feirw. Dyna'r stori i ti, a gwna fel y mynot a hi, ebai F'ewyrth Edward.

—————————————

Fy anwyl fam fy hunan

YR oeddwn un tro wedi anufuddhau i fy mam, a daeth hyn i glustiau F'ewyrth Edward. Ni chymerodd arno ei fod wedi clywed dim am danaf, ond pan euthum i'w dy i wrando arno yn adrodd ei straeon, ebe fe, Yr ydw i erbyn hyn yn hen, ac er y mod i'n gwybod na fydda i ddim yma yn hir, ac y bydd y cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lle yn bur fuan, 'dydw i ddim yn sicr y mod i'n wir debyg i Iesu Grist mewn dim ond yn fy mharch i fy mam. Un o'r touches mwya ffein yn hanes y Gwaredwr ydyw ei ofal am ei fam, a hyny pan oedd baich byd o bechodau yn pwyso arno.