Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bydaswn i'n gwybod dim am dano ond y ffaith yna yn unig, mi fuasai gen i feddwl mawr o hono byth. Bydasai raid i mi farnu cymeriad bachgen drwy ofyn dim ond un cwestiwn iddo, y cwestiwn hwnw fuasai—beth wyt ti'n feddwl o dy fam? 'Doedd Bob, y tymblwr, er's talwm, ddim yn cael ei ystyried yn haner call, ond heb law codi pin oddiar lawr gydag emrynt ei lygad, a champau ereill, fe ddwedai Bob ambell air pur gall. Meddai Bob un diwrnod,—"Os colli dy dad mi gei golled fawr, ond os colli di dy fam mi golli'r cwbwl." Hyd yn nod pan fydd bachgen wedi dirywio yn dost o ran ei gymeriad, os ca'i allan fod o'n meddwl yn uchel am ei fam, mae gen i obaith am dano. A fedri di gân Dafydd Ddu Eryri,—"Fy anwyl fam fy hunan?". Na fedri? Wel, mae gen i ofn fod llawer o fech gen yr oes hon heb wybod am y pethau goreu yn iaith eu mam. Mi genais lawer ar y gân hono er's talwm, a dydw i 'rioed yn cofio ei chanu na lanwai fy llygaid â dagrau, a mi faswn yn ei chanu i ti 'rwan daswn i heb golli fy llais. Mae ambell hen gân dda, mi goelia, fel adnodau'r Beibl, wedi cadw llawer bachgen rhag drwg. Wn i ddim lle buaswn i 'rwan oni bai am gân Dafydd Ddu Eryri.