Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

thrachefn dan wylo yn hidl am i mi beidio myn'd i ffwrdd. Yr oeddwn wedi c'ledu, ac yn meddwl fy mod wedi colli pob parch i fy rhïeni, ac ni chafodd dagrau fy mam ddim dylanwad arnaf. Mi gwelaf hi y funyd yma yn edrych ar fy ol pan oeddwn yn cychwyn i gyfarfod Wil Williams. Wyddwn i fawr am y boen yr oeddwn yn ei achosi iddi. Wedi myn'd bron o olwg y tŷ, mi edrychais yn ol. Yr oedd fy mam o hyd yn y drws, ac yn sychu ei llygaid a'i ffedog. Mi ddechreuais feddwl beth oeddwn yn myn'd i'w wneud, a fy mod, hwyrach, yn cymeryd yr olwg olaf am byth ar fy hen gartref, a daeth rhyw beth i fy ngwddf, ond yn fy mlaen yr eis. Yr oedd yn fore hynod o hyfryd. Yr wyf yn cofio mai y bore hwnw oedd y tro cyntaf i mi sylwi mor hardd oedd yr hen gymydogaeth, a synwn am i mi fod am gynifer o flynyddoedd heb weled prydferthwch natur. Yr ydw i'n meddwl mai у bore hwnw y cefais fy ail-eni gan natur. Mae y fath beth a hyny'n bod, wyddost, pan y mae bachgen yn canfod am y tro cyntaf mor hardd ydi'r byd yma. Canai yr adar yn braf yn y goedwig gerllaw, a meddyliwn fod y gwartheg, y defaid, a'r ceffylau i gyd yn edrych arnaf am y tro olaf. Nid oeddwn, cyn hyny, wedi sylwi