Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor brydferth oedd y creaduriaid diniwed. Yr oedd yr aber fain a redai efo gwaelod y werglodd hir yn edrych yn fwy gloew nag erioed, a phan welais lygoden ffrengig yn rhedeg o fy ffordd wrth i mi fyn'd heibio, nid oedd genyf y mymryn lleiaf o awydd i'w lladd. Pan eis drwy lidiart y cae pellaf, gadawais hi yn agored, achos daeth rhywbeth i fy meddwl os ceuwn hi, na ddeuwn byth yn ol, a dechreuais feddwl am wledydd pell ac am ymladd efo'r Blacs, am galedi, oerni, a newyn. Ond yr oedd fy nhad wedi dweyd nad oeddwn yn werth fy halen, ac ymlaen yr euthum yn benderfynol. Yr oedd yn rhaid i mi fyn'd heibio'r Hafod Lom, a meddyl iais am Doli'r Hafod. Yr oeddwn yn hoff iawn o Doli hyd yn oed y pryd hwnw, ond yr wyf wedi dweud y stori hono i ti o'r blaen. Cyn cyraedd yr Hafod yr oedd ffordd gul, isel, a dyfrllyd, a gwrych uchel o bob ochr iddi, a phan oeddwn yn myn'd ar hyd y ffordd hon mi glywn rywun yn canu. Doli oedd yn canu wrth odro. Wedi d'od i'w hymyl, mi eisteddais ar y clawdd i wrando arni. Bydasai hi'n gwybod y mod i tu arall i'r gwrych yn gwrando, fasai hi ddim yn canu, mi wn. Yr oedd gan Doli lais swynol dros ben, yn ol y marn i, a chlywais i erioed mo