hono mor swynol a'r bore hwnw. Eisteddais i wrando arni am y tro olaf yn fy mywyd, fel yr oeddwn yn meddwl, a'r pumed penill yn y gân,—"Fy anwyl fam fy hunan,"—oedd y geiriau cyntaf a glywais. Deffrodd rhywbeth yn ngwaelod fy nghalon, a dychwelais adref, a rydw i'n meddwl fod fy mharch i fy mam, o'r diwrnod hwnw allan, wedi myn'd yn fwy-fwy tra bu hi byw. Digiodd Wil Williams yn dost am nad aethwn i'w gyfarfod, a galwai fi yn ļlwfrgi digalon, ac aeth ei hun yn syth i Gaer a listiodd. Wedi hyny, anfonwyd ef i'r India, ac ni chlywodd neb byth siw na miw am dano. Hwyrach y. leiciet ti glywed geiriau y gần "Fy anwyl fam fy hunan?".
"Pwy a'm hymddygodd yn ddi-lys
O dan ei gwregys mwynlan?
Pwy roes i'm' faeth a lluniaeth llon
O laeth ei bron bêr anian?
A phwy a'm cadwodd rhag pob cam?
Fy anwyl fam fy hunan.
Pwy i'm' a suai uwch fy nghryd
Pan oeddwn wanllyd faban?
A phwy fu'n effro lawer gwaith
Drwy'r hirnos faith aniddan?