Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yr wyf yn meddwl mai o blwy Ysgeifiog yr oedd o'n hànu. Yr oedd tipyn o natur llys—enw yn y teulu, a'r "Hen Grothe " y byddent yn galw ei dad—yr wyf yn ei gofio'n burion. Nid oedd Ned druan, yn ben llathen, ac o herwydd hyny, mae'n debyg, ni chlywais erioed fod gan neb gas—galon iddo. Bu Ned yn briod dair gwaith, ac yr oedd y tair gwraig yn debyg iawn i'w gilydd, ac iddo yntau. Mae bran i fran. Ac fe fu raid i'r tair ymostwng i'r un rheol—sef byw efo fo am fis o dreial cyn iddo eu priodi, er mwyn iddo brofi eu tymer. Un o'r dynion mwyaf diddiogi a welais erioed oedd Ned, a 'roedd o bob amser, p'run bynag ai hel carpiau y byddai ai rhywbeth arall, fel bydasai yn lladd nadrodd, ac mor brysur a Robin y Busnes. Er ei fod yn hynod o onest, ni byddai byth yn edrych yn ngwyneb neb, ac os safai i siarad a rhwfun, byddai ei lygaid yn ysgwta o gwmpas ei draed. Yr oedd Ned fel pe buasai wedi ei fwriadu gan Ragluniaeth i ffeindio pethau, ac yn wir, yr oedd pobl yn dweyd ei fod wedi ffeindio llawer yn ystod ei oes. Codai Ned efo'r wawr dranoeth ar ol pob ffair a marchnad, a byddai ei lygaid yn cyniwair yn mhob stryd am rywbeth a allai ei ffeindio.