Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Drwy fisoedd yr haf byddai Ned bob bore Sul wedi llygadu pob twll a chornel yn mhob heol cyn i bobl eraill godi o'u gwelyau, ac, i dawelu ei gydwybod, mae'n debyg, byddai yn canu hymnau ar fore Sabboth. Mi clywais o ddegau o weithiau o'ngwely. Beth bynag a fyddai y geiriau, yr un dôn oedd ganddo yn wastad, a hono, mi gredaf, o'i gyfansoddiad ef ei hun rhyw fath o chant yn y cywair lleddf—hynod o Gymreig o ran ei sŵn. Ni buasai Ned yn dal at y gwaith o chwilotą fel hyn am oes gyfan, oni bai ei fod yn ffeindio pethau weithiau. Yr wyf yn cofio un tro fod dyn wedi meddwi mor dost ar nos Sadwrn nes y collodd ei watch, ac ni wyddai yn y byd mawr yn mha le. Ond cafodd y watch gan Ned prydnawn Sul, ac ni roddodd geiniog o wobr i'r creadur gonest. Bu hyn, yr wyf yn meddwl, yn wers i Ned i gadw pobpeth a ffeindiai o hyny allan.

Nid rhyw lawer o syniad oedd gan Ned am bellder. Ar adeg cynhauaf un tro yr oedd y Proffeswr Edwards yn cerdded i lawr Forgate Street, Caer, a phwy a welai ar yr heol, a sicl dan ei gesail, ond Ned. Aeth ato, ac ebai fe wrthọ,—

"Wel, Edward, bedach chi'n neud yma?"