"Myn'd i lawr i Lunden 'rydw i,Mr. Edwards, i'r cynhaua—mae'n nhw'n deud mae lle clyfar anwedd ydi Llunden adeg cynhaua," ebai Ned.
Hyny fu. Yn mhen yr wythnos yr oedd y Proffeswr yn dod i lawr stryt yr Wyddgrug, a phwy a welai ond Ned, ac ebai fe,—
"Helo, Edward, 'roeddwn yn meddwl eich bod yn myn'd i Lunden i'r cynhaua?"
"Wel na, Mr. Edwards," ebai Ned, "deis i ddim cosach i Lunden na Phargiật (Pargate yn Sir Gaer), welwch chi."
Mi wranta fod dau gant o latheni rhwng ty Ned a'r ffynon lle y byddai yn cael dŵr; a mi gwelais o un diwrnod yn myn'd i'r ffynon a dau biser mawr ganddo. Wedi eu llenwi â dŵr, cariai un o honynt encyd o ffordd a gosodai ef i lawr, yna âi i nol y llall a gosodai ef i lawr yn ymyl y cyntaf. Ac felly cariai hwynt nes dod a'r ddau i'r tŷ. Gofynais iddo pa'm yr oedd yn gwneud felly. "Safio amser, welwch chi," ebai Ned.
Nid rhyw lawer o syniad oedd ganddo ychwaith am werth arian. Un tro aeth Ned, wedi bo nos, at Thomas Roberts, Tŷ Draw i brynu iar, ac wedi i Mr. Roberts ddal yr 'ar dan yr hofel, aed yn fargeinio rhwng y ddau am y pris.