Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Wel," ebai Ned, "Os bydd hi'n braf ('hwb;' ebai dy fodryb)—ddo i ddim," a ffwrdd a fo, ac ni ddaeth i symud y domen. Yr oedd dy fodryb drwy chwerthin wedi andwyo'r cwbl, a gwneud i Ned newid ei feddwl ar ganol y frawddeg.

Am amser, bu Ned yn byw yn un o'r cabanod sydd dan yr entri yn nhop Henffordd, ac ar y pryd ei fusnes penaf oedd hel carpiau. Ar ryw ddamwain yr oedd wedi cael dau bâr o olwynion bychain ar echeli, ac aeth ati i wneud gwagen fechan i ddal y carpiau. Bu rai diwrnodiau yn gwneud y wagen, ac wedi ei gorphen cychwynodd gyda hi i hel carpiau, ond yr oedd y wagen yn lletach lawer na'r entri, ac ni fedrai ei chael drwodd, ac wrth ei weled yn y drafferth, ebai ei gymydog Drury wrtho,—

"Wel, Edward, mae eich gwagen yn rhy lydan."

"Nag ydi," ebai Ned, "yr entri sy rhy gil," ac aeth i'r tŷ mewn tymer ddrwg, a chyrchodd forthwyl a thorodd y wagen, yr olwynion a'r cwbl yn ulw mân. Wn i ddim sut y mae hi ar Ned erbyn hyn; ond y mae yn o anodd gen i feddwl y bydd y Brenin Mawr yn galed wrtho—yr oedd o mor