Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiniwed. Nid oedd y duedd grefyddol yn gref yn Ned; ac eto ni fedrai adael llonydd i grefydd. Anaml yr elai i foddion gras ar y Sabboth, ond mwy anaml y byddai yn absenol o bob moddion ar gyfarfod pregethu, gan nad gyda pha enwad y cynelid y cyfarfod. Ar Sasiwn, Cymanfa neu gyfarfod pregethu, bydd ai Ned yn amlwg iawn. Ond bu'm yn ofni mai dyfod i'r cyfarfodydd y byddai er mwyn dangos ei fotymau, oblegid ar y cyfryw achlysuron byddai y botymau mawr a gloew a fyddai ar ei gôt a'i wasgod yn tynu sylw pawb. Ac eto nid fy lle i ydyw barnu amcanion Ned. Hwyrach y tybiai Ned mai trwy ei fotymau y gallai ef oreu ogoneddu Duw. A phwy a wyr.

Er na wyddai Ned mwy na phost llidiart, y gwahaniaeth rhwng Rhyddfrydwr a Thori, ymorchestai ei fod yn Liberal at y carn, a phan basiwyd y ddeddf i roi fôt i bob ty-ddaliwr, ac iddo ddeall fod ganddo bleidlais, nid oedd trin arno. Yr wyf yn cofio fel bydasai ddoe y lecsiwn gyntaf wedi i'r ddeddf ddod i weithrediad. Yr oedd Ned yn ei lân drwsiad cyn saith o'r gloch y bore, a'i fotymau yn disglaerio. D'wedai wrth bawb a gyfarfyddai, nad oedd am fotio i'r naill ochr na'r llall. Wedi deall hyny, ymlidiwyd ef gan y toris mwyaf dylanwadol am