oriau bwygilydd, a rhedai Ned fel ysgyfarnog o'u ffordd, hyd y ffyrdd a'r caeau, nes iddo flino pawb. Ond oddeutu chwarter awr cyn adeg cau y pôl, daeth Ned o hono ei hun i ymyl y lle, a gosododd ei gefn ar y wal i herio pawb. Crefwyd arno gan rai o bobl mwyaf blaenllaw y ddwyblaid i fotio; ond atebai Ned,—"Bydae'r Apostol Paul ei hun yn gofyn i mi fotio, na i ddim." Yn y funyd daeth y Liberal Agent heibio—yr hwn oedd yn ŵr callach na'r cyffredin ac wrth weled y dyrfa o gwmpas Ned yn ceisio ei berswadio i fotio, ebai fe—
"Be haru chi, bobol? ydach chi'n meddwl na wyr Edward ddim sut ac i bwy i fotio, heb i chi ei ddysgu? Gadewch lonydd i'r dyn. Fe wyr Edward nad oes dim ond pum' munyd nes bydd y pôl yn cau," ac aeth ymaith. Aeth Ned yn syth i'r pôl a fotiodd dros y Rhyddfrydwr Wedi iddo dd'od allan, gwisgwyd Ned â rubanau melynion, a chariwyd ef ar ysgwyddau y Liberals i fynu ac i lawr y dref am oriau, ac ni welais yn fy mywyd y fath firi a llawenydd diniwed mewn lecsiwn, ac yr oedd Ned Sibion yn ymorfoleddu yn yr anrhydedd a roddid arno. Wel, wel, a mae Ned druan wedi marw! Wyddost di be, mi fydd yn chwith arw gen i amdano, ebai F'ewyrth Edward.