Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhy Debyg

FUOST di 'roed yn synu, ebe F'ewyrth Edward, er cymaint o bobol sydd yn y byd, a bod gwynebau pawb o honom ar yr un ffurf a chynllun, mor anaml y cei di ddau wyneb mor debyg i'w gilydd na fedri di ganfod yn union, wrth graffu arnynt, fod digon o wahaniaeth ynddynt? Bendith fawr ydyw hyn; a mi fyddaf yn gweled cymaint o ddoethineb y Creawdwr mawr ynddo ag mewn dim. Ac un o'r pethau casaf genyf ar wyneb daear ydyw gweled rhai hynod debyg i'w gilydd, megis efeilliaid, a mae gen i reswm da am hyny. Dyma iti stori smala yn fy hanes i fy hun bron yn rhy smala i'w chredu, ond gelli ei chredu neu beidio.

Pan oeddwn i oddeutu wyth ar hugain oed, yr oedd gen i fusnes i fyn'd i Groesoswallt. Mi gymere ormod o amser i mi ddeud wrthot ti beth oedd y busnes, ond, yn fyr, yr oedd gen i eisio gweld dyn ar fater pwysig,ac yr oedd yntau wedi addaw nghyfarfod i yn Nghroesoswallt yn y ffair ceffylau. Oherwydd pellter y ffordd, a rhag i mi ei golli, yr oeddwn wedi gofalu cyraedd