Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dre y noson o flaen y ffair. Mi ges lety digon cyfforddus mewn tŷ preifat. Mi wyddwn yn burion er's blynyddau fod rhai o deulu mam yn byw yn agos i Groesoswallt, ond o herwydd rhyw ffrae nid oedd dim cyfathrach wedi bod rhyngom ni â hwy; ac, hyd yr oeddwn yn cofio, nid oeddwn wedi gweld un o honynt erioed, a nid oeddwn yn bwriadu ymweled â hwynt, nac ymholi dim yn eu cylch. "Paid a myreth dim a nhw; os medran nhw neud hebon ni, mi fedrwn ninau neud hebddyn nhwythe," ebe mam, pan oeddwn yn cychwyn, ac ni feddyliais mwy am danynt. 'Doeddwn 'rioed wedi bod yn Nghroesoswallt o'r blaen, a thranoeth y bore mi grwydr es gryn dipyn i weled y dre', achos 'doedd ffair y ceffylau ddim yn dechreu tan ganol dydd. Wrth droi am gornel stryt mi ddois i wyneb clamp o blismon, a mi rythodd arna i fel bydase gen i gyrn ar y mhen. Yr oeddwn yn methu dallt pam yr oedd y dyn yn rhythu arna i felly, achos 'doedd dim neilltuol yn y ngwisg i, oblegid yr oedd agos i bob ffarmwr y pryd hwnw yn gwisgo brethyn cartre. Yr oeddwn yn meddwl nad oedd dim neilltuol yno'i i dynu sylw ond y ngwallt,—yr hwn, pan oeddwn yn ifanc oedd cyn ddued â'r fran, ac yn grych fel