"Wel, John Jones, yr ydach chi wedi troi gartref o'r diwedd?" "Fy enw i ydi Edward Jones, a mae'n debyg eich bod yn fy nghamgymeryd am y gŵr sydd newydd fyn'd allan," ebe fi.
"Thâl stori fel ene ddim i mi, John, yr wyf yn eich 'nabod yn rhy dda o lawer, a gwell i chi ddod efo fi ar unwaith," ebe'r plismon, Heb fod lawer oddicartre yr oeddwn yn bur ddiniwed, ac yr oeddwn wedi dychrynu yn enbyd. Protestiais nad y fi oedd John Jones, pwy bynag oedd hwnw; a dwedais, yn fyr fy ngwynt, dipyn o fy hanes, a chymerais fy llw nad oeddwn wedi bod yn Nghroesoswallt o'r blaen yn fy mywyd. Ond ni chafodd dim a ddwedais wrth y plismon fwy o argraff arno na pheri iddo wenu yn wawdlyd, ac ebe fe,—
"John, waeth i chi roi stop arni yn y fan ene; neiff cyboli celwydd les yn y byd i chi. Dowch efo fi yn ddistaw ac yn llonydd."
"Beth ydi'r cyhuddiad yn fy erbyn?" gofynais inau.
"Does dim isio dweud pader i berson," ebe fynte.
Mi elwais ar wraig y dafarn, gan ddisgwyl rhyw gynorthwy ganddi hi, ond wnaeth hono