Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim ond gwneud fy helynt yn fwy. Tyngodd ar ei pheth mawr na fu un dyn yn y tŷ tra y bum i yno, a galwodd y forwyn a thyngodd hono yr un peth.

"Ydach chi'n gweld, John, na neiff palu celwydd les yn y byd i chi?" ebe'r plismon.

"Hoswch chi," ebe'r. wraig, "ai nid John Jones, Tan'rallt, ydio? Wel, ond 'doeddwn i'n smala na faswn i'n 'nabod y dyn?"

"Yn smala, oeddach debyg," ebe'r plismon.

"Yr ydach chi'n gneud camgymeriad yn siwr," ebe fi, ac yr oeddwn just a chrïo.

"Mi weles Mary ddoe, a ' roedd hi'n sôn am danoch chi, John," ebe'r forwyn wrthyf yn ddis taw, a mi faswn yn medrud ei tharo.

"Dyma chi, John," ebe'r plismon, "os na ddowch chi efo fi yn ddistaw ac yn llonydd, mi fydd raid i mi'ch handcyffio, ond 'does gen i ddim isio'ch sposio chi."

"Ië, ewch y machen i heb neud row," ebe'r dafarnwraig A myn'd a neis i—yn wir, 'doedd gen i ddim dewis—yr oedd yn rhaid i mi fyn'd, ond yr oeddwn yn disgwyl y caent ryw oleu ar eu camgymeriad. Yr oedd yn ddiwrnod ffair, fel y dwedais, ac yr oedd canoedd o lygaid yn edrach