Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arna i wrth i mi fyn'd yn ochr y plismon drwy'r dre, a buasai twr o blant wedi'n canlyn oni bai i'r plismon eu bygwth. Teimlwn y ngwyneb yn llosgi fel tân, a chlywn hwn a'r llall yn dweud,—

"Be mae hwn ene wedi neud os gwn i?"

"Dim da yn siwr i chi."

"Piti hefyd, mae golwg barchus arno."

"Dyna y rhai gwaetha yn aml."

Cawn y credyd gan ambell un yr awn heibio iddo fod yn amlwg fy mod yn teimlo fy sefyllfa, ac felly yr oeddwn yn siwr ddigon. Edrychwn dan y nguwch a welwn i neb yn y ffair oedd yn fy nabod, ond yn ofer, a diau mai hyny barodd i un, tebyg i fugail, ddweyd wrth i mi ei basio,

"Ci lladd defaid ydi o'n siwr i chi."

Wel, cymerwyd fi i'r rowndws, a 'doedd o ddiben yn y byd i mi brotestio, dweud fy hanes, gofyn am eglurhad, na dim arall; yr unig ateb a gawn oedd y cawn ddweud y cwbl wrth y magistrate bore dranoeth. Prydnawn tost oedd hwnw; mi cofiaf o byth, a chysges i ' run winc ar y ngwely pren y noson hono, a meddyliwn weithiau mai breuddwyd oedd y cwbl. Heb i mi gwmpasu, dygwyd fi o flaen fy ngwell