Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

—yr unig dro yn y mywyd. Nid oedd ond un magistrate ar y fainc, gan dybio mae case o remand a fuasai yn ddiameu, a thybiwn ar ei ol wg y cawn chware teg ganddo, ac hwyrach iawn am fy ngharcharu ar gam. Ebai fe,–

"Wel, John Jones, beth wnaeth i chi adael eich gwraig a'ch plant?"

"Nid John Jones ydi fy enw, syr, a fu gen i 'rioed wraig, heb sôn am blant," ebe fi, a dechreuais ddweud pwy oeddwn ac o b'le yr oeddwn yn dyfod, ond stopiwyd fi ar unwaith gan y magistrate. Ac ebai fe,—

John, John, yr ydach chi wedi c'ledu mewn drygioni,—yr ydym yn eich 'nabod yn rhy dda," a galwodd ar Mary Jones, a daeth gwraig dlawd yr olwg arni yn mlaen, ac ebai'r magistrate, —

Mary Jones, ai y dyn yna ydi'ch gŵr chi?" " Ië, syr," ebai'r wraig, "ond y mae o wedi altro yn arw, a mae'n dda iawn gen i weld o. Fu o 'rioed yn gâs wrtho i, a wn i ddim beti naeth iddo ngadel i a'r plant 'rwan er's pedair blynedd."Gybeithio, Mr. Preis, na fyddwch chi ddim yn frwnt wrtho, achos yr ydw i'n siwr y daw o adre at ei deulu 'rwan, on ddowch chi, John bach?" A thorodd y wraig i grïo.

Erbyn hyn yr oeddwn yn credu yn sicr fy