Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mod wedi fy witchio neu fy rhoi yn ffynon Elian. Ebai'r magistrate,—

"Wel, John, mi ddylwn eich rhoi yn jail am dri mis,—dyna ddylech chi gael am adael eich teulu. Ond y mae y plwy wedi cadw digon arnynt, ac os ydach chi'n addaw myn'd adre', ac edrach ar ol eich gwraig a'ch plant, mi gewch fyn'd yn rhydd am y tro hwn. Os na wnewch addaw gneud hyny, rhaid i mi roi tri mis i chi. Beth ydach chi'n ddeud, John? "

Meddyliais y munyd hwnw y gallwn ddianc wedi cael fy nhraed yn rhyddion, ac ebe fi,—

"Wel, mi wnaf fy ngoreu i wneud fel yr yd ach chi'n gofyn, syr."

"Very good," ebai'r magistrate, "ond gofalwch na ddowch chi ddim mlaen i eto, neu nid fel hyn y bydd hi arnoch chi. Mae'n biti garw fod crefftwr da fel chi, John,—un sydd yn dad i blant, ac yn d'od o deulu parchus,—wedi gwneud sôn am danoch fel hyn. Bydded hyn yn wers am byth i chwi, John. Mi ellwch fyn'd 'rwan."

Yr oeddwn wedi fy syfrdanu. Daeth y wraig ataf i ysgwyd llaw, ac estynais inau fy llaw iddi yn llipa ddigon. Yr oedd hi wedi crïo,—o lawenydd, mae'n debyg,—nes oedd yn haner