dall. Tra yr oeddwn yn cerdded wrth ei hochr, heb wybod i b'le yr oeddwn yn myn'd na pheth i neud, edrychai y wraig arnaf bob chwarter munyd, fel pe buasai yn ameu ei llygaid, a siaradai am gant o bethau na wyddwn ddim am danynt. Dwedodd fwy nag unwaith fy mod wedi altro yn arw, ond fod yn dda ganddi fy ngweld mor drefnus. Soniai am y plant, a d'wedai nad arni hi yr oedd yr holl fai pan euthum i ffwrdd, a chraffai i fy wyneb drachefn a thrachefn. Ni dd'wedais air wrthi mwy na mudan, ac yr oeddwn yn ofni dyrysu yn fy synwyrau. Arweiniodd fi i ryw fuarth lle yr oedd amryw dai, ac yr oedd y cymdogion oll yn sefyll yn y drysau, ac yn gwenu arnaf ac yn fy llongyfarch. Amlwg ydoedd fod i mi groeso i ddod yn ol. Ar hyd y ffordd torai y wraig i grïo bob yn ail munyd, ac yn wir yr oedd yn arw iawn gen i drosti. Chwareuai y ddau fachgen gyda phlant eraill yn y buarth, a phan oeddym yn myn'd i'r tŷ, galwodd Mary Jones arnynt i ddod i weld eu tad. Daeth y plant i mewn, ond ni chymerais sylw o honynt,—yr oedd yn gâs gen i gweld nhw, druain. Parodd hyn i Mary grïo drachefn, a d'wedodd,—
"Pa'm na ddeudwch chi rwbeth wrth y plant, John, os ydach chi yn cau siarad a fi."