Tudalen:Straeon y Pentan.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni ddoi y plant yn agos ataf, drwy drugar edd. Sylwais fod y ty, er yn dlawd, yn hynod o lân, ac wedi gorffen crio, ebai Mary,—

"Mi ellwch feddwl, John, y mod i'n dlawd; oes gynoch chi bres i mi nol rhywbeth yn damed i chi?"

Rhoddais iddi ychydig sylltau, ac wedi iddi roi y tegell ar y tân aeth allan, ac yn y funyd dychwelodd â llon'd ei ffedog o bethau o'r siop. Wrth ei chwt daeth y dyn a welswn yn y dafarn i mewn. Cofleidiodd a chusanodd y plant, a'r un modd y wraig. Edrychodd Mary fel bydase wedi drysu. Fedra i ddim desgrifio i ti yr olygfa na fy llawenydd. Yr oedd y dyn wedi dod yn ol at ei deulu, ond pan welodd y plismon yn dod ar ei ol i'r dafarn diangodd. Ar ol deall fy mod i wedi fy nghymeryd yn ei le, a bod y Fainc wedi maddeu i mi ar yr amod i mi edrych ar ol fy nheulu, daeth John yn syth gartre. Yr oedd yn edifar iawn ganddo ei fod wedi gadael ei wraig a'i blant. Cawsom dê yn ddigon cyfforddus efo'n gilydd, ac wedi tipyn o siarad, deallais mai Jac y nghefnder ydoedd. Mi ddois adre yn gynt na chynta gallwn i, ac ar hyd y ffordd yr oeddwn yn edrych ar bawb rhag